Gwasanaeth Iechyd Meddwl 111
Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oedran sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl neu gofid emosiynol. Bydd eich galwad yn cael ei ddargyfeirio'n uniongyrchol i'r tîm Iechyd Meddwl 111, lle bydd yr alwad yn cael ei ateb gan Ymarferydd Iechyd Meddwl a Lles sydd wedi'i hyfforddi i gael sgwrs ystyrlon i ddeall y rheswm dros yr alwad, darparu ymyriadau byr dros y ffôn a'ch rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau ar gyfer cefnogaeth barhaus.